
Hyfforddwyr
Yswiriant ar gyfer hyfforddwyr rygbi
Click here for our English portal
Fel hyfforddwyr cofrestredig URC, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau amgylchedd diogel wrth hyfforddi cyfranogwyr.
Gallech gael eich dal yn atebol yn gyfreithiol pe bai cyfranogwr yn cael ai anafu yn ystod sesiwn rydych yn ei harwain, ac arbennig os yw’r amgylchedd yn anniogel neu os yw’r arweiniad a roddwch yn anghywir. Fel hyfforddwr ymgysylltiedig Undeb Rygbi Cymru, rydych wedi’ch yswirio’n awtomatig gan yswiriant atebolrwydd fel rhan o’ch aelodaeth. Mae’r yswiriant hwn yn cynnwys:
Atebolrwydd Cyhoeddus
Amddiffyniad yn erbyn hawliadau sy’n codi o anaf corfforol damweiniol i drydydd partïon neu ddifrod i eiddo trydydd parti yn ystod gweithgareddau yswiriedig. Darperir yswiriant hyd at uchafswm o £25,000,000 yr hawliad.
Os oes angen tystiolaeth arnoch o’ch yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i’w dangos i drydydd partïon, gallwch fynd at y ddogfennaeth berthnasol trwy glicio yma.
Damwain Bersonol
Mae buddion yn cynnwys digollediad am anafiadau difrifol yn unol â’r manylion isod.
Buddion Damwain Bersonol i Aelodau Chwarae a Hyfforddwyr URC Cymwysedig (16-75 Oed):
- Marwolaeth: £250,000
- Colli Golwg mewn Un Llygad: £50,000
- Colli Golwg yn y Ddwy Lygad: £100,000
- Colli Lleferydd: £100,000
- Colli Clyw mewn un Glust: £50,000
- Colli Clyw yn y Ddwy Glust: £100,000
- Colli Aelod(au): £100,000
- Anablu Cyflawn Parhaol: £1,000,000
- Paraplegia: £200,000
- Hemiplegia: £300,000
- Quadriplegia/Tetraplegia: £500,000
- Anablu Cyflawn Dros Dro: Heb ei yswirio
- Cyfnod mewn ysbyty: £25 y diwrnod, hyd at 10 diwrnod
Cliciwch yma i weld manylion y buddion Damwain Bersonol a ddarperir i chi fel hyfforddwr ymgysylltiedig URC.
Cod ymddygiad
Mae’n bwysig ymgyfarwyddo â Chod Ymddygiad URC i Hyfforddwyr, y gallwch ei weld trwy glicio yma.
Nodyn Pwysig: Mae’r yswiriant hwn yn gymwys dim ond i weithgareddau a gymeradwyir ac a gydnabyddir gan URC, gan gynnwys hyfforddiant y clwb. Os cynigiwch wasanaethau hyfforddiant URC ar sail lawrydd neu hunan-gyflogedig, nid yw’r yswiriant hwn yn estyn i’r gweithgareddau hynny, a bydd angen i chi sicrhau yswiriant atebolrwydd amgen.

Otium magazine
Take a look at our grassroots sport, recreation, and equine magazine.