
Yswiriannau ychwanegol
Cyfarwyddwyr a Swyddogion ac Yswiriant Eiddo Clwb
Click here for our English portal
Yswiriant Cyfarwyddwyr a Swyddogion
Mae yswiriant Cyfarwyddwyr a Swyddogion, sydd hefyd yn cael ei alw’n Atebolrwydd Rheolwyr, yn cynnig amddiffyniad hanfodol i aelodau bwrdd, uwch aelodau pwyllgor, ac ymddiriedolwyr eich clwb. Mae’r yswiriant hwn yn eu hyswirio hwy’n bersonol os cânt eu herlyn am gamreolaeth honedig y clwb, gan gynnwys hawliadau mewn perthynas â thor-ddyletswydd, enllib, athrod, neu esgeulustod.
Caiff llawer o glybiau chwaraeon eu rheoli gan bwyllgor, y mae pob aelod ohono’n gyfrifol am rolau penodol. Os bydd aelod o bwyllgor yn gweithredu tu allan i’w cyfrifoldebau dynodedig, gallent wynebu achos sifil neu droseddol am esgeulustod neu dor-ddyletswydd. Mae yswiriant Cyfarwyddwyr a Swyddogion yn cwmpasu costau cyfreithiol yr achosion hyn ac unrhyw ddigollediad a ddyfernir os profir esgeulustod.
Os oes gennych gwestiynau pellach am yswiriant Cyfarwyddwyr a Swyddogion, cliciwch yma.
Sut i Gael Dyfynbris
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod yma.
Yswiriant eiddo clwb
Fel clwb ymgysylltiedig URC, mae’ch yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus a Chyflogwyr yn darparu yswiriant am hawliadau difrod i eiddo gan drydydd parti. Fodd bynnag, nid yw hyn yn estyn i eiddo, asedau nac offer eich clwb ei hun. Er enghraifft, os torrir i mewn i adeilad eich clwb neu mae’n dioddef difrod o storm ddifrifol, ni fydd eich yswiriant atebolrwydd yn talu am y colledion hyn.
I amddiffyn eiddo’ch clwb, ystyriwch bolisi Eiddo, Adesau ac Offer. Buddion allweddol yn cynnwys:
- Difrod i Adeilad y Clwb a Thai Allan: Amddiffyniad yn erbyn difrod i adeilad eich clwb ac unrhyw dai allan.
- Tlysau: Yswiriant am dlysau, yn adeilad y clwb ac o fewn y DU, gan gynnwys pan fydd aelod yn mynd â hwy adref.
- Wynebau Chwarae: Yswiriant am wynebau chwarae, gan gynnwys caeau 3G.
- Llifoleuadau: Amddiffyniad yn erbyn difrod gan wyntoedd cryf neu stormydd.
- Tarfu ar Fusnes: Digollediad am incwm a gollir (e.e., hurio ystafell, refeniw bar/arlwyo) oherwydd digwyddiadau difrifol megis tân neu lifogydd.
- Stoc ac Arian Bar: Yswiriant am stoc ac arian bar, gan gynnwys arian parod wrth iddo gael ei gludo i’r banc.
- Offer Chwaraeon: Amddiffyniad am offer chwaraeon yn y clwb ac oddi ar y safle, megis yn ystod gemau i ffwrdd.
- Eiddo Personol: Yswiriant am offer personol, p’un a yw wedi’i storio mewn ystafelloedd newid neu mewn car yn ystod cystadlaethau.

Otium magazine
Take a look at our grassroots sport, recreation, and equine magazine.