
Croeso i Borth Yswiriant URC
Porth yswiriant Undeb Rygbi Cymru
Click here for our English portal
Fel brocer yswiriant a phartner rheoli risg swyddogol ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, rydym ni yn Howden yma i gefnogi'ch anghenion yswiriant.
P'un a ydych chi'n glwb, yn hyfforddwr, neu'n chwaraewr, mae'ch cysylltiad ag URC yn rhoi mynediad i chi i raglen yswiriant wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer y gymuned rygbi.
Y porth hwn yw'ch adnodd arbennig ar gyfer gwybodaeth hwylus am y mathau gwahanol o yswiriant a gynigir trwy amrywiol bolisïau URC.
Fel aelod ymgysylltiedig Undeb Rygbi Cymru, rydych yn dod o dan yswiriant Atebolrwydd, sy'n eich diogelu pe baech yn cael eich canfod yn esgeulus ac yn gyfrifol am beri anaf i drydydd parti neu ddifrod i'w heiddo wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau URC neu ddigwyddiadau eraill a gydnabyddir gan yr Undeb.
Yn ogystal, mae hyfforddwyr, chwaraewyr, dyfarnwyr, a swyddogion gemau sydd â chysylltiad yn cael eu cwmpasu gan yswiriant Damwain Bersonol. Mae'r yswiriant hwn yn darparu swm budd penodedig i aelodau sy'n cael eu hanafu wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a gymeradwyir gan URC, ni waeth pwy sydd ar fai.
Canolbwynt polisi a dogfen

Otium magazine
Take a look at our grassroots sport, recreation, and equine magazine.