
Clybiau
Yswiriant ar gyfer clybiau rygbi
Click here for our English portal
Fel clwb chwaraeon amatur ymgysylltiedig, mae gennych ddyletswydd ofal i ddiogelu’ch aelodau, eich staff, a’r cyhoedd, tra byddant yn cymryd rhan yn eich chwaraeon a gweithgareddau cysylltiedig.
Os yw’ch clwb wedi cofrestru gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) ac yn cymryd rhan yn y gêm gymunedol, rydych yn elwa ar yswiriant atebolrwydd trwy’ch ymgysylltiad.
Meysydd yswiriant allweddol:
Atebolrwydd Cyhoeddus a Chynhyrchion
Mae’r yswiriant hwn yn amddiffyn y clwb a’i bwyllgor neu fwrdd rhag hawliadau sy’n codi o golled, difrod, neu anaf a berir i bobl eraill neu eu heiddo. Mae'r polisi yn darparu yswiriant hyd at £25,000,000 yr hawliad.
Atebolrwydd Cyflogwyr
Mae’r yswiriant hwn yn talu am iawndal a thrheuliau cyfreithiol pe bai cyflogai neu wirfoddolwr yn cael ei anafu neu ei ladd wrth weithio i’r clwb. Mae’r yswiriant yn estyn i hyd at £25,000,000 yr hawliad.
Opsiynau yswiriant ychwanegol:
Atebolrwydd Cyfarwyddwyr a Swyddogion: Efallai yr hoffai clybiau ystyried prynu yswiriant atebolrwydd Cyfarwyddwyr a Swyddogion ar wahân. Mae’r yswiriant hwn yn amddiffyn asedau personol cyfarwyddwyr a swyddogion y clwb yn achos gweithred gyfreithiol yn eu herbyn am benderfyniadau a wneir yn rhinwedd eu rôl fel arweinwyr y clwb. Cliciwch yma i gysylltu ag aelod o’r tîm a thrafod hyn ymhellach.
Yswiriant Eiddo’r Clwb: Er bod rhaglen atebolrwydd URC yn darparu amddiffyniad am atebolrwydd Cyhoeddus a Chyflogwyr, nid yw’n cynnwys eiddo, asedau, nac offer eich clwb ei hun. Er enghraifft, pe bai adeilad eich clwb yn dioddef difrod o dorri i mewn neu dywydd difridol, ni fyddai hyn wedi’i yswirio o dan y polisïau atebolrwydd presennol. Dylai clybiau ystyried yswiriant eiddo ychwanegol i amddiffyn yn erbyn y risgiau hyn. Cliciwch yma i gysylltu ag aelod o’r tîm a thrafod hyn ymhellach.
Gweithgareddau cymeradwy:
Mae yswiriant URC wedi’i ddylunio i gynnwys gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rygbi a chwaraeon safonol ac achlysuron cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gweithredu clwb rygbi. Mae hyn yn cynnwys darparu bwyd a diod a defnydd adeilad y clwb am ddigwyddiadau cymdeithasol neu gymunedol. Mae gweithgareddau fel arddangosiadau tân gwyllt a digwyddiadau coelcerth ar yr amod y bodlonir amodau polisi penodol.
Bydd angen i unrhyw weithgareddau ychwanegol neu atodol megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, gwyliau cerddoriaeth, neu ddefnydd y tiroedd fel parc carafannau a gwersylla a/neu ddarparu offer maes chwarae, gael eu datgan i yswirwyr a’u cytuno ganddynt. Nid oes yswiriant awtomatig am y gweithgareddau hyn nad ydynt yn gysylltiedig â rygbi. Er mwyn galluogi yswirwyr i ystyried eu hyswirio, rhowch fanylion llawn y gweithgareddau gan gynnwys refeniw blynyddol a geir ohonynt. Cliciwch yma i gysylltu ag aelod o’r tîm a thrafod hyn ymhellach.
Atebolrwydd Cyhoeddus - Tystiolaeth o Yswiriant
Os oes angen tystiolaeth arnoch o’ch yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i’w dangos i drydydd partïon sydd angen prawf o’ch yswiriant cliciwch yma.
Tystysgrif Atebolrwydd Cyflogwyr
Os oes angen eich tystysgrif Atebolrwydd Cyflogwyr arnoch i’w dangos i drydydd partïon sydd angen prawf o’ch yswiriant cliciwch yma.

Otium magazine
Take a look at our grassroots sport, recreation, and equine magazine.